Mae anturiaethau Wicipedia yn parhau gyda chyfrif arbrofol @Wikidelta. Dilynwch y cyfrif am ddolenni achlysurol at erthyglau Wicipedia unigryw mewn sawl iaith. Mae ‘unigryw’ yn golygu erthyglau sydd heb gael eu cysylltu/cyfieithu/addasu o/i unrhyw erthygl Wicipedia mewn unrhyw iaith eraill.
Dadansoddi 283 iaith Wicipedia (yn ara deg)
Mae cymunedau ieithyddol yn cynnal sawl Wicipedia ac mae pob un yn wahanol. Mae rhywfaint o gyfieithu ac addasu ac mae rhywfaint o erthyglau sy’n unigryw i’r fersiwn Cymraeg, y fersiwn Catalaneg, y fersiwn Arabeg, ac ati. Pa ganran o erthyglau unigryw sydd ar y Wicipedia Cymraeg? Beth am BOB iaith Wicipedia?