Datblygwr gwe ac ymgynghorydd ydw i.
Fy nod proffesiynol yw trawsnewid cyfryngol er les pawb.
Mae fy niddordebau gwaith yn cynnwys arloesedd agored, platfformau cydweithio, meddalwedd rydd, diwygio’r cyfryngau, technoleg dinesig, a datblygu ieithoedd lleiafrifedig ac ieithoedd heb ddigon o adnoddau.
Os ydych chi am drafod defnydd o’r cyfryngau digidol gan eich prosiect neu hyfforddiant i’ch tîm, cysylltwch i ofyn am ragor o fanylion.
Mae fy nghlientiaid diweddar yn cynnwys: CULT Cymru, Golwg, Lleol.cymru, Llywodraeth Cymru/Sefydliad Data Agored Caerdydd, Prifysgol Aberyswyth, Wikimedia UK.
Gwaith arall
- Cyd-sefydlwr a chyd-drefnydd apêl Tarian Cymru
- Cyd-sefydlwr Hacio’r Iaith
- Dyfeisiwr Sleeveface
- Aelod bwrdd O’r Pedwar Gwynt
Sgiliau fel datblygydd gwe
- LAMP (Linux, Apache, MySQL a PHP), Nginx
- PHP yn cynnwys Composer, Symfony Console, phpunit, a datblygu ar sail profion (TDD)
- WordPress – datblygu gwefannau/themâu/ategion, cofnodion cyfaddas, wp-cli, dwyieithrwydd, amlieithrwydd, SEO
- MediaWiki: gosod cronfeydd gwybodaeth
- Gosodiad ymatebol gyda CSS, HTML5, a fframweithiau JavaScript
- API: SendGrid, Twilio, Twitter, Wikipedia/MediaWiki, Flickr, eBay, Amazon, bit.ly
- Mapiau systemau gwybodaeth ddaearyddol: OSM, Mapnik, mod_tile, leaflet.js
- Rheoli fersiynau trwy git a GitHub/GitLab/Bitbucket
- Docker a rhith-eiddio
Arbenigedd arall
- Platfformau cydweithio: Trello, Slack, Basecamp, Google Drive
- Preifatrwydd, gwarchod data, hawlfraint, trwyddedu – cyfraith ac arfer da
- Hyfforddiant – dylunio a darparu
- Cydweithio, cyfathrebu, gwaith tîm
- Rheoli cymunedau ar-lein