Diffiniad cwmni cychwynnol

Dyma ddiffiniad cwmni cychwynnol yn ôl fy nealltwriaeth i.

Mae’r cysyniad o gwmni start-up yn drysu lot o bobol, hyd yn oed gwleidyddion, ac yn cael ei defnyddio ambell waith i ddisgrifio unrhyw gwmni newydd. Ond mae’r term cwmni cychwynnol, start-up, yn cyfeirio at fath arbennig o gwmni sef rhywbeth arbrofol sydd yn trio technoleg newydd, syniad busnes neu/a phroses arloesol er mwyn profi potensial y peth. Mae’r cwmni cychwynnol yn prototeip.

Mae’r potensial o dwf yn bwysig, dyma pam mae lot o ddadansoddiadau yn asesu scalability y cwmni: allai’r cwmni ailadrodd y broses ac yn tyfu?

Er enghraifft roedd Google yn cwmni cychwynnol ar y dechrau. Gwnaethon nhw chwilio am ffyrdd i wneud elw mas o chwilio. Yn y pen draw gwnaethon nhw ffeindio model busnes, sef hysbysebion Google Adwords ac Adsense (y brif ffynhonnell incwm), sydd wedi tynnu elw da ac wedi tyfu’r cwmni. Cwmni cychwynnol dydyn nhw ddim rhagor felly. Fyddan ni byth yn disgrifio siop trin gwallt fel cwmni cychwynnol, hyd yn oed os maen nhw yn newydd neu yn llwyddiannus iawn.

Fel arfer mae’r rheolaeth yn newid elfennau sylfaenol yn aml er mwyn ffeindio fformiwla dda.

Mewn theori os mae’r cwmni cychwynnol yn methiant mae’r tîm yn gallu symud i bethau eraill ac mae pawb yn yr un diwydiant a thu hwnt yn gallu dysgu trwy eu profiadau.

Cyntaf yn y gyfres: parth menter rhith

Derbyn cywiriadau gramadeg oddi wrth ddarllenwyr

Dw i eisiau gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig. Mae’r blog i gyd yma yn rhan o’r cynllun wrth gwrs.

Diolch yn fawr i Rhys Wynne am ebostio cywiriadau i gofnod diweddar. Enghreifftiau o gywiriadau:

  • ‘ydy’ yn lle ’mae’ mewn cwestiwn
  • ‘sylweddoli’ yn lle ‘sylwi’ (wedi gwneud yr un yma o’r blaen)
  • beirniad yn lle barnwr
  • trydedd/pedwaredd yn lle trydydd/pedwerydd (sa’ i’n poeni lot am yr un yma achos mae’r ystyr yn glir ond y ffaith bod fersiynau gwrywaidd a benywaidd yn ddiddorol)

Mae’r cofnod yn well o ran gramadeg. Bai fi yw unrhyw wendidau eraill.

Beth sydd angen yw rhyw fath o system sydd yn derbyn cywiriadau oddi wrth ddarllenwyr: pwyntio, clicio ac awgrymu cywiriad gydag esboniad. Mae’r esboniad yn bwysig achos mae’r broses dysgu yn bwysig. Yn hytrach na jyst cynhyrchu dogfen rydyn ni’n defnyddio camgymeriadau fel sail dysgu er mwyn gwella fy sgiliau (neu dy sgiliau neu pwy bynnag sydd yn defnyddio’r system).

Gyda llaw gwnes i ofyn am help Rhys. Yn gyffredinol – annwyl achubwyr yr iaith bondigrybwyll – dw i ddim eisiau annog yr arfer o danseilio hyder pobol trwy gywiriadau manwl bob tro mae rhywun yn mynegi ei hun yn Gymraeg. Ond os mae rhywun eisiau defnyddio Cymraeg safonol ac yn gwahodd cywiriadau, cer amdani.

Ar hyn o bryd dw i’n meddwl am ategyn WordPress, naill ai rhywbeth wiciaidd neu rywbeth tebyg i nodiadau ar Google Docs a phrosesyddion geiriau eraill.

Cwestiynu’r gystadleuaeth blog Eisteddfod Gen

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng traethawd a chofnod blog?

Cyd-destun, cyfrwng sef cyfrwng o drosglwyddiad o’r awdur i’r darllenwyr, hyd yn oed defnydd o gyfryngau gwahanol fel fideo, lluniau, awdio a dolenni. Ac yn aml iawn mae sylwadau dan y cofnod blog.

Dw i ddim yn siwr os ydy’r Eisteddfod Genedlaethol yn sylweddoli’r gwahaniaethau yma. Ar gyfer y gystadleuaeth blogio eleni (am y trydedd neu pedwaredd blywyddyn dw i’n credu?) mae’n rhaid sgwennu cyfres o draethawdau, yn hytrach nag unrhyw fynegiant arall fel fideo ayyb:

165. Blog amserol
Cyfres o flogiau wedi’u hysgrifennu yn ystod mis Mawrth 2012 heb fod dros 3,000 o eiriau
Gwobr: £200 (o’r PDF)

Maen nhw yn derbyn rhywbeth printiedig ar bapur neu ar USB. Fyddan nhw ddim yn derbyn dolen at rywbeth ar y we. Mewn gwirionedd fydd cofnod blog sydd ar y we eisoes ddim yn ddilys fel cais! Y person cyntaf (oc olaf?) i’w ddarllen ac i’w werthfawrogi fydd Betsan Powys, y beirniad.

Mae’n edrych fel cyfle coll i dyfu’r grefft o flogio yn Gymraeg lle y dylai fe fod, sef ar y we.

DIWEDDARIAD: Diolch i Rhys Wynne am fy helpu i gyda gramadeg.

Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti adael sylw neu fod yn rhan o rywbeth.

Mae rhai o hackathons yn ffug. Mae pobol yn sgwennu’r cod rhywle dawel cyn iddyn nhw fynd! Hefyd mae cwmnïau yn defnyddio nhw i ffeindio talent a syniadau.

Byddwn i o blaid rhywbeth Hacio’r Iaith gyda ffocws penodol ac ymarferol.

Mae cymhareb o spectators i gyfranogwyr yn bwysig gyda rhywbeth ymarferol. Efallai bydd angen gweithdy bach ar y dechrau ac wedyn mae pobol yn gallu ymarfer y sgiliau newydd?

Efallai mae angen ‘cyfyngiadau’ hefyd sef
– casgliad o ddata
– neu API
– neu pwnc penodol
er mwyn sbarduno syniadau a chanolbwyntio ar rhywbeth.

e.e.
archif S4C
archif Radio Cymru
data Radio Cymru, e.e. playlist
archif Llyfrgell Gen
“barddoniaeth”
mynyddoedd
Y Rhestr o flogiau ar hedyn.net
Wicipedia Cymraeg
stwff yn Gymraeg dan Creative Commons
data Umap
ayyb

DIWEDDARIAD: mae’r sgwrs wedi symud i’r wefan Hacio’r Iaith

‘Dylen ni dechrau rhyw fath o borth’

Mae 111 cofnod mewn fy ffolder drafft. Sut wnaeth hynny digwydd? Hadau yw’r rhan fwyaf. Gwnaf i drio postio rhai ohonyn nhw.

Ystyriwch y paragraff yma am hanes Yahoo a’r we:

[…] What made Yahoo a great business, long ago, is that there was a reason to visit it multiple times a day. Yahoo was the first site to do a bang-up job organizing the Web, and it was the first site to capitalize on that prowess by adding all kinds of useful doodads that made you stick around. This was the famous “portal” strategy of the early dot-com years—you’d go to Yahoo to get to someplace else, but in the process, you’d get caught up in Web email, stock quotes, news stories, the weather, horoscopes, job ads, videos, and personals. The portal idea is mocked now, because after Google came along, people realized that you could get to wherever you wanted on the Web in seconds. But it’s worth remembering that Web portals were a terrific idea for a long time. Indeed, for much of the last decade, people spent more time on Yahoo than on any other site online. […]

(o Slate – rwyt ti wedi gweld y darn gorau uchod)

Dw i wedi clywed yr awgrymiad ‘porth’ mewn cyfarfodydd yng Nghymru. Fel arfer mae rhywun yn dweud ‘dylen ni dechrau porth!’ ac mae pobol eraill yn cytuno. Syniad da.

Mae’r gair ‘portal’ neu ‘hub’ yn dod mas yn Saesneg ac hyn yn oed yn cyd-destunau eraill fel ‘transport hub’. Efallai dw i’n hollol rong ond yn fy marn i mae’r gair ‘porth’, ‘portal’ neu ‘hub’ yn arwydd o ddiffyg meddwl manwl. (Pwy fydd yn gyfrifol am y cynnwys? Pam fydd pobol eisiau cyfrannu?)

Mewn gwirionedd mae’n anodd iawn i greu rhywbeth sydd yn apelio at bawb. Mae angen lot o bobol i gynnal rhywbeth o ddiddordeb cyffredin i bawb, naill ai lot o staff neu lot o wirfoddolwyr/cyfranogwyr.

Yr unig porth, fel petai, mewn dwylo pobol Cymraeg yn ystod hanes y we oedd Maes-e. O’n i ddim yn digon rhugl i gymryd rhan ar y maes yn ystod yr oes aur ond dw i dal yn ffeindio cynnwys gwerthfawr. Yn diweddar o’n i’n chwilio am y gair siolen ac mae trafodaeth ar Maes-e ar gael trwy chwilio.

Mae Facebook wedi bod fel porth i lot o siaradwyr Cymraeg ers blynyddoedd ac wedi cymryd cynnwys tu ôl y wal. Oes gobaith o borth Cymraeg mewn dwylo pobol Cymraeg yn y dyfodol?

Efallai dylen ni ystyried y we Gymraeg i gyd fel porth, y porth o byrth.

Neu efallai dylen ni anghofio’r gair yn gyfan gwbl ac yn bathu trosiad gwell sydd yn addas i ein sefyllfa.