O’r we i’r teledu a llyfrau

Cefais i sgwrs da heddiw gyda Nwdls am bob math o beth gan gynnwys pethau sydd yn symud o flogiau i lyfrau fel Stuff White People Like (a Sleeveface…).

Y cwestiwn oedd, beth yw’r pethau diwylliannol Cymraeg sydd wedi dechrau ar y we ar blogiau, YouTube, Flickr ayyb ac wedi symud i deledu, llyfrau ac ati i fod ar gyfryngau ‘traddodiadol’?

Enghreifftiau Cymraeg:

  • Sgymraeg gan ffotograffwyr amrywiol (hanes Scymraeg/Sgymraeg – taith o’r byd corfforol i’r we i llyfr corfforol trwy’r Lolfa)
  • Paned a Chacen – Y Llyfr gan Elliw Gwawr, trwy’r Lolfa
  • Mae blog Lowri Haf Cooke yn ffynnu ac yn sail i lyfr gerllaw yn Gymraeg am Gaerdydd trwy Gomer (er bod y blog yn rhan o gynllun Lowri o’r dechrau fel teclyn ymchwilio/datblygu)
  • Oes llyfrau Cymraeg eraill sydd yn seiliedig ar bethau gwe?

Fel mae’n digwydd, heno dw i wedi bod yn pori S4C Clic a newydd gweld pobol o YouTube! Sef:

Yn y dau enghraifft uchod mae’r cwmniau cynhyrchu wedi ychwanegu graffeg i ddweud ’mae’r clip yn lo-fi, peidiwch ffonio i gwyno am ansawdd y lluniau’: graffeg y sioe yn achos Llŷr a graffeg lens camera digidol yn achos Wales Shark.

Hefyd:

  • Ydy Dan Rhys yn cyfrif?! Mae fe wedi bod ar S4C a BBC ond dyw e ddim wedi bob ar Pobol y Cwm eto…

Wrth gwrs mae’r we yn digon, does dim rhaid i ddiwylliant y we Gymraeg derbyn sel bendith oddi wrth cyfryngau eraill i fod yn dilys. Mae’r pwynt yn gweithio dwy ffordd – dw i ddim yn meddwl bod pobol creadigol sydd yn joio eu crefft eisoes yn desperet i fod ar y teledu. Ddylai pobol yn Y Diwydiant ddim tanseilio gwerth neu ddim bod yn nawddoglyd tuag at y we fel cyfrwng. Dylen nhw neidio mewn hefyd.

Ond mae manteision i ddiwylliant y we Gymraeg. Mae pobol chwilfrydig yn gallu dilyn y llwybrau o deledu/llyfrau yn ôl i’r we ac yn gallu cymryd rhan mewn sawl ffordd. Mae siwrnai dwyffordd posibl.

Ambell waith mae’r cyfranogiad teledu/cwmniau yn rhoi arian i’r bobol tu ôl y syniadau. Dw i ddim yn gallu siarad ar ran Wales Shark neu unrhyw un ond mae’n wych eisoes os ydy pobol yn gallu profi a joio syniadau ar y we gyda chost isel. Ac mae’n dwbl gwych os ydy cwmniau gydag adnoddau ac arian yn gallu cynnig pethau. Doedd dim rhaid i Wales Shark derbyn y cynnig i fod yn y ‘prif ffrwd Cymraeg’ (gyda 10X mwy o wylwyr!) ond mae fe wedi penderfynu i ymestyn ei ‘brand’ i deledu. A pham lai.

Es i i ROFLCon 2010, roedd y sgyrsiau diddorol y cynnwys prif ffwrd a’r we.

Wrth gwrs os ydy’r we yn ffynhonnell o greadigrwydd, ysbrydoliaeth a syniadau – a dyma beth dw i’n credu wrth gwrs – mae hi’n gallu sbarduno diwylliannau Cymraeg yn gyffredinnol. (Gyda llaw bwrdd delwedd yw un o’r pethau dw i eisiau ychwanegu i Maes E v2012 yn bendant.)

Roedd Dave Datblygu yn awgrymu syniad o sioe newydd ar S4C. Os ydy e wir eisiau rhaglen dylai fe rhoi fideo ar YouTube ac aros am ganiad.

Cadwch y pwyll mewn pwyllgor (ymgynghoriad Cynulliad)

Nos Lun nes i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r Cynulliad ynglŷn â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Beth oedd yn nodedig oedd y defnydd o’r we i gynnal sgwrs fyw.

Chwarae teg i’r Cynulliad am drio trafodaeth o ryw fath ar y we. Ond yn anffodus o’n i ddim yn meddwl bod y sgwrs nos Lun yn llwyddiant o gwbl.

Nai disgrifio’r holl broses yn fy achos i. Gwnes i dderbyn gwybodaeth fel e-bost – oddi wrth ffrind sydd yn gweithio i’r Cynulliad. Wedyn nes i sylwi tipyn bach o gyhoeddusrwydd am ‘sgwrs fyw ar y we’. O’n i’n chwilfrydig: dyma cyfle i ddylanwadu’r dyfodol y cyfryngau mewn ffordd ac yn sgil hynny gweld beth yn union mae Cynulliad yn brofi yn y maes digidol. Yn y pen draw roedd sgwrs testun ar system Cover It Live sydd yn debyg iawn i unrhyw system negeseua sydyn (IM) er roedd rheoli rhwng teipio ac arddangos i sicrhau sylwadau addas (a chyfieithu unffordd, mwy isod).

Dylai’r problemau sylfaenol bod yn eithaf amlwg erbyn hyn. Os wyt ti’n gallu teipio yn gyflym ac yn dda gyda soundbites, mae dy sylwadau di yn cael eu ystyried fel tystiolaeth. Ces i neges e-bost heddiw sy’n gadarnhau’r ffaith – bydd y sylwadau wir yn cael eu ystyried fel tystiolaeth go iawn. Wyt ti erioed wedi trio cael trafodaeth dwys ar Twitter, er enghraifft? Mae’n anodd iawn ac mae’r gwendid yn gyffredinol i unrhyw beth ar-lein sydd yn cynnwys negeseuon byrion sydd yn digwydd yn amser real, gan gynnwys y sgwrs fyw nos Lun.

Yn diweddar, er bod senedd.tv yn bodoli ac yn dda, es i i’r Bae i weld sesiynau Ian Hargreaves, Euryn Ogwen ac eraill. O’n i jyst eisiau’r profiad. Mae’r trafodaethau yna yn amser real ond maen nhw yn siarad un ar y tro.

Yn y sgwrs fyw ar-lein roedd un awr yn unig i siarad am y cyfryngau i gyd – newyddiaduriaeth, hysbysebion, busnes, print, teledu, radio, y we, platfformau o bob math, lleol ac ati. Roedd lot o gwestiynau gan yr aelodau o’r pwyllgor Ken Skates, Bethan Jenkins a Janet Finch-Saunders. Dychmyga, mae popeth yn digwydd yn amser real gyda amldasgio o sgyrsiau hollol gwahanol ar yr un tro. Darllena fy nhrawsgrifiad, doedd y sgwrs ddim yn cynaliadwy o gwbl. Roedd 1 neu 2 munud i feddwl am ateb synhwyrol cyn i’r sgwrs symud ymlaen.

Roedd problemau eraill. Ble oedd y pobol o’r gogledd neu hyd yn oed unrhyw un tu gorllewin i Gastell Nedd? O’n i’n nabod y rhan fwyaf o’r pobol yn bersonol, o ran y rhai o’n i ddim yn nabod yn bersonol o’n i’n cyfarwydd iawn gyda’u enwau. Dw i’n gwybod bod Cymru yn fach ond ddim mor fach a hynny. Mae rhaid codi cwestiynau am unrhyw ymgynghoriad gyda gwahoddiadau. Efallai roedd gwahoddiadau y tro cyntaf i brofi’r system – gobeithio. Beth bynnag, achos y system a phroses tasen nhw wedi gwahodd mwy o bobol basai’r sgwrs wedi bod yn waeth.

Dw i’n meddwl bod cyfleoedd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gwell trwy defnydd da o ar-lein, teclynnau da ac ymarferion da.

Ond cyn i ni ystyried y cyfleoedd ar-lein rydyn ni’n gallu gofyn ‘beth sy’n bod gyda’r proses traddodiadol fel y mae?’. Mae’r broses fel y mae yn eithaf da, canlyniad o flynyddoedd o gamgymeriadau a datblygu siŵr o fod. Mae wythnosau fel arfer i feddwl, i sgwennu adborth i’r ymgynghoriad ac i’w anfon trwy bost neu e-bost.

Un o’r heriau sy’n wynebu’r proses traddodiadol: pa mor agored ydy e? Mae’n agored i bawb mewn theori. Ond bydd mwy o dystiolaeth yn dda tu fas i’r usual suspects, dw i’n derbyn hynny. Dw i’n meddwl bod e’n werth trio trafodaeth anghydamserol ar we sy’n agored, e.e. system trafodaeth ar agor am fis neu dau ar wici neu hyd yn oed blog o ryw fath. Bydd pynciau gwahanol ar wahan, dolenni i bethau cysylltiedig o gwmpas y we a digon o amser i feddwl. Does dim rhaid i drafodaeth bod yn gyflym fel y sgwrs fyw – heblaw rhywbeth anffurfiol i gyflwyno ymgynghoriad ar y dechrau efallai.

Dylai fe fod yn bosib i redeg ymgynghoriad yn y dwy iaith hefyd. Yn anffodus doedd y Cynulliad ddim yn cymryd bob cyfle i bostio pethau yn Gymraeg. Dyma enghraifft o sylw uniaith gan y Cynulliad. Yn ystod y sgwrs o’n i’n postio sylwadau yn Gymraeg ac roedd rhywun yn eu cyfieithu unffordd o Gymraeg i Saesneg. Ond doedd e ddim yn bosib i ddarllen pob sylw yn Gymraeg. Mae’n cyfrannu at y shifft ieithyddol. Os rydyn ni eisiau cael democratiaeth go iawn mae rhaid cynnig yr un cyfleoedd yn y dwy iaith. (Er enghraifft dw i’n cwrdd â lot o bobol sy’n hollol galluog sydd ddim yn hyderus yn Saesneg. ‘Beth yw ’darlledu’ yn Saesneg?’ oedd cwestiwn dilys go iawn yn ystod fy ngwaith yn ddiweddar.)

Maen nhw newydd gofyn trwy neges ebost am fy meddyliau am y broses. Ti’n gallu gweld copi o’r ebost yma. Gwnes i dderbyn fersiwn uniaith Saesneg, dw i ddim yn siwr os oes fersiwn Cymraeg ar gael.

(Mae rhaid dweud yma bod i wedi gweithio gyda’r Cynulliad ar ddigwyddiad a strategaeth cyfryngau digidol ar gyfer etholiadau 2011.)

Marshall McLuhan a diwylliant llafar

Mae pobol yn y maes cyfryngau yn drafod gwaith Marshall McLuhan wythnos yma. Heddiw yw 100 mlynedd ar ôl ei genedigaeth.

Fe yw’r boi sy’n enwog am y dyfyniad “y cyfrwng ydy’r neges”. Darllena’r erthyglau yma yn y drefn yma os ti’n chwilfrydig: Douglas Coupland yn y Guardian, Kevin Kelly,Nicholas Carr. Mae lot o stwff arall ar y we. Bonws: McLuhan Sleeveface

McLuhan yw un o’r meddylwyr mwyaf hip erioed ond mae fe wastad yn ddiddorol hyd yn oed i rywun sydd ddim mor academaidd o ddydd i ddydd fel fi.

Fel mae’n digwydd dw i wedi bod yn ddarllen y llyfrau isod.

McLuhan Hot & Cool, sef erthyglau amdano fe…

McLuhan Hot & Cool

… ac Essential McLuhan, rhai o’i erthyglau a chyfweliadau gyda fe…

Essential McLuhan

Dw i’n ddim yn siwr os dw i’n gallu cynnig mewnwelediadau unigryw ond dw i wedi bod yn cadw llygaid mas am gyfeiriadau neu berthnasedd i’r Gymraeg ac ieithoedd bychain. Mae’r darn isod yn brofoclyd a diddorol iawn, o The Gutenberg Galaxy, 1962:

From the plastic and audile-tactile world of southern Italy came an answer to the lineal anguish of the segmenters of the Gutenberg Milieu. So thought Michelet and Joyce. Let us briefly return to the space question as affected by Gutenberg. Everybody is familiar with the phrase, “the voices of silence.” It’s the traditional word for sculpture. And if an entire year of any college program were spent in understanding that phrase, the world might soon have an adequate supply of competent minds. As the Gutenberg typography filled the world the human voice closed down. People began to read silently and passively as consumers. Architecture and sculpture dried up too. In literature only people from backward oral areas had any resonance to inject into the language – the Yeats, the Synges, the Joyces, Faulkners, and Dylan Thomases.

Er bod ‘backward oral areas’ yn swnio bach yn sarhaus dw i ddim yn siŵr os roedd e’n bwriadu swnio yn negyddol. Yn rhai o’i erthyglau mae fe’n sôn am sefyllfa cyfryngau i bobol Affricanaidd yn y 50au a 60au, sef diwylliant llafar sydd jyst yn wahanol i’r gorllewin – heb unrhyw dyfarniad gwerth amlwg. Er enghraifft roedd lot o bobol yn Affrica ar y pryd yn dibynnu ar eu clustiau am newyddion a gwybodaeth. Roedd strwythur cymdeithas yn wahanol, e.e. mwy o bwyslais ar y cymuned/llwyth/grwp yn hytrach na’r unigolyn. Roedd hynny yn wir yn y gorllewin i gyd yn y gorffennol.

Roedd diwylliant Cymraeg yn eithaf tebyg i ryw raddau. Mae’n eithaf amlwg i fi bod Cymraeg yn fwy o ddiwylliant llafar na diwylliant Saesneg. Gaf i ddweud hynny? Yn oes Gutenberg a Caxton, cawson ni chwyldro’r wasg yn sicr ond ddim cystal â Saesneg. Wedyn doedd ddim lot o amrywiaeth yn bapurau a llyfrau Cymraeg. Gweler hanes y llyfrau printiedig cyntaf.

The Gutenberg Galaxy

Dyma theori arall. Mae’n bosib fy mod i’n hollol rong yma – eto. O ran ar-lein efallai mae blogio testun yn Saesneg yn eithaf prif-ffrwd ond bydd rhywbeth fel fideo yn gweithio yn well yn Gymraeg. Mewn ffordd mae’r byd yn mynd yn yr un cyfeiriad. Mae Lawrence Lessig yn dweud:

Text is today’s Latin. It is through text that we elites communicate… For the masses, however, most information is gathered through other forms of media: TV, film, music, and music video. These forms of “writing” are the vernacular of today. They are the kinds of “writing” that matter most to most.

Byddwn i’n ychwanegu diweddariadau statws ac iaith tecstio hefyd. Maen nhw yn debyg i iaith lafar, sy’n wahanol i erthyglau hir. (Heddiw dyw rhai o bobol sy’n hollol rugl ddim yn hyderus iawn gyda sgwennu erthyglau hir hefyd – am lot o resymau.)

Cwestiwn ydy, pa gyfryngau fydd yn gweithio yn dda iawn yn Gymraeg yn 2011? Ar-lein, ddylen ni annog pobol i ddechrau blogiau fideo yn lle testun felly?

I fod yn onest bydd rhaid i mi ddarllen The Gutenberg Galaxy i’r diwedd am fwy o gyd-destun.

Trafod technoleg? Methiant cyfryngau prif-ffrwd

Dyma eitem newyddion teledu S4C, gan BBC, gyda sylw gennyf fi:

“A fydd yr e-lyfr yn achosi tranc y llyfr papur ac inc?”

Gwnaethon nhw defnyddio cyfanswm o 15 eiliad o’r fideo gyda fi. Wrth gwrs dwedais i lot mwy ond dw i’n deall sut mae teledu yn gweithio ac o’n i’n gwybod pwyslais yr eitem o flaen llaw. Dw i’n chwarae’r rôl syml, hyrwyddwr technoleg mewn drama BBC.

Mae’r rhai o bethau isod yn amlwg, nawr dw i’n gallu eu cwestiynu achos ces i gyfle i weld y peth o safbwynt arall a chyfrannu i eitem.

Yn aml iawn mae cyfryngau prif-ffrwd Saesneg gallu bod yn euog o drafodaeth arwynebol a Ludaidd am dechnoleg. Ond dw i’n meddwl efallai bod e’n waeth yn Gymraeg.

Un problem, mae gyda ni llai o ffynonellau newyddion a barn yn y cyfryngau prif-ffrwd. Dyma pam dw i eisiau darllen barnau o safbwyntiau gwahanol, e.e. yr erthygl Angharad Mair am Twitter. (Meddyliau am yr arbrawf.) Dw i ddim yn sicr os mae “prif-ffrwd” yn addas chwaith achos maen nhw mor fach.

Mwy na hynny, mae naratif parhaus o bygythiad technoleg yn y cyfryngau, dw i’n meddwl, yn enwedig technoleg yn erbyn ein traddodiadau ac hefyd, yn aml, yn erbyn yr iaith Gymraeg. Mae unrhyw syniad am stori yn dod trwy’r un lens. Y teimlad mwyaf priodol i unrhyw dechnoleg yw ofn. Ydy e’n rhan o’n hunaniaeth?

Yn y stori am e-lyfrau, mae’r siop yn cynrychioli’r traddodiad. Ond unrhyw siop llyfrau yw cwmni technoleg i ryw raddau – llyfrau yw technoleg gwybodaeth. Hefyd mae siopau fel unrhyw busnes yn gallu newid i gymryd mantais o gyfleoedd o bob math.

Dydyn ni ddim wedi archwilio lot o gwestiynau yma. Beth yw’r perthynas rhwng e-lyfrau a llyfrau papur? Mae’r elwa o’r dau yn mynd i’r cwmnïau cyhoeddi, ddylai fe golygu unrhyw “tranc” o gwbl? Wrth gwrs mae’r cymhareb 115:100 gan un cwmni yn eitha amherthnasol i unrhyw “tranc” neu twf yn llyfrau bapur o ran ystadegau. Mae’r ffigur Amazon yn cynrychioli’r UDA, pa mor wahanol yw Cymru neu’r DU ar hyn o bryd? Faint o bobol sy’n prynu e-lyfrau yn brynu llyfrau papur hefyd (lot dw i’n dyfalu)? Beth am fathau gwahanol o lyfrau, e.e. comics? Beth am Afal Drwg Adda a llyfrau eraill sy’n anodd neu amhosib i’w ffeindio? Sut ydyn ni’n gallu tyfu’r farchnad llyfrau, beth bynnag ydy’r fformatau? Beth yw’r problemau gydag Amazon a Kindle ayyb (mae problemau) – a’r gwahaniaeth rhwng y cysyniad a’r realiti, DRM a rheolaeth gan cwmni mawr ayyb? Beth yw’r rôl siopau? Ac ati.

Roedd y sgwrs yn Bedwen Lyfrau yn bositif iawn mewn gwirionedd. O leiaf cawson ni hanner awr i drafod y peth. (Gyda llaw, dyma syniad i BBC: beth am rhannu mwy o’r cyfweliadau ar-lein yn hytrach na gwastraffu’r fideo? O’n i eisiau clywed mwy o safbwynt Siop y Felin a Siôn T. Jobbins, er enghraifft. Dw i’n deall os oes gyda chi dwy funud yn unig ar y teledu ond does dim terfyn ar-lein. Beth am lanlwytho’r stwff i YouTube heb unrhyw golygu taclus? O ddifri.)

Y prif problem yw’r agwedd cyfryngau yn Gymraeg i dechnoleg. Nes i weld yr un peth llynedd gyda BBC Radio Cymru a’r dadl am ddefnydd yr iaith gan y plebs.

Mae’r agwedd yn atal ymdrechion i brofi a datblygu defnydd da o dechnoleg. Rydyn ni’n angen gweld y cyfleoedd gyda’r bygythiadau. Mae dealltwriaeth o dechnoleg yn bwysig pan mae gwleidyddion yn trio gwerthu syniadau i ni fel hud amlblatfform a’r Cofnod gwan.

Weithiau dw i’n teimlo bod ni’n gwastraffu un o’n hadnoddau gwerthfawr – y cyfryngau prif-ffrwd – dosbarthu ofn yn hytrach na dealltwriaeth dda.

DIWEDDARIAD 25/05/2011: siomedig gyda thoriadau enfawr yn BBC Cymru.