Denu darllenwyr i flog: arbrawf a 5 egwyddor

Sbel yn ôl dechreuodd llwyth (oce, tua 5) o flogiau Cymraeg newydd am fwyd a diod. Yn 2013 un o’r pynciau mwyaf poblogaidd ymhlith blogiau Cymraeg newydd oedd crefft dw i’n meddwl – gan gynnwys Boglyn ac eraill.

Sut ydyn ni’n sicrhau hir oes i ymdrechion fel hyn, ar draws y pynciau gwahanol?

Yn union wythnos yn ôl gwnes i arbrawf. Postiais i neges ecsgliwsif i’r bobl sydd wedi tanysgrifio i fy mlog personol yma. Dyw’r cynnwys ddim yn ymddangos ar hafan y wefan ond mae modd mynd i’r cofnod a sylwadau yma. Gofynnais i am sylwadau oddi wrth y tanysgrifwyr RSS.

Ces i sylwadau gan cyfanswm bach iawn o 10 o bobl. Mae’n ddiddorol i weld pwy sy’n darllen yn gyson. Roedd un neu ddau wedi ffeindio’r cofnodion ar Blogiadur a ffrydiau awtomatig eraill.

Yn hytrach na ’10 o bobl’, gallwn i wedi dweud ’10 o ddynion’ mewn gwirionedd. Byddai mwy o sylwadau gan menywod wedi bod yn braf, er mwyn cyrraedd fy nhargedau cydraddoldeb.

rs-thomas-nebSdim llawer o syndod yn y canlyniad yma. Dw i’n methu siarad ar ran pobl eraill ond mae lot o resymau pam dw i’n blogio (dysgu, cofnodi, sgwrsio) sydd ddim yn cynnwys unrhyw ymdrech i gystadlu gyda’r cyfryngau prif ffrwd neu i fod yn seleb. Gellid meddwl am lwyth o bynciau mwy addas tasai hynny yn wir!

Ond nawr dw i’n meddwl (eto) am y ffyrdd gorau i hybu prosiectau Cymraeg annibynnol ar y we.

Yn y cyfamser…

1. Gwnaf aildrydariad pob dydd er mwyn annog eich hoff gwefannau/fideos Cymraeg ac ati. Aildrydarwch Bob Erthygl Gymraeg O Ansawdd. (Neu efallai… Byddwch Fel Hedd Gwynfor Gyda’r Pynciau Ti’n Licio… Hmm. Dal i weithio ar y sloganau yma a dweud y gwir.)

2. Gadewch Sylwadau Ar Eich Hoff Stwff PLIS! (Pam dydy pobl ddim yn gadael sylwadau ar gofnodion, fideos ayyb? Arfer neu bryder am iaith ysgrifenedig…?)

3. Os wyt ti eisiau tanysgrifio i dy hoff blogiau dylet ti ystyried Feedly neu CommaFeed. Paid ag ofni’r term RSS, mae’n golygu bod y pethau mwyaf diddorol ar gael i ti. Does dim angen derbyn llwyth o e-byst chwaith. Tanysgrifiwch I Bethau.

4. I’r rhai sydd yn rhoi erthyglau, fideos ayyb ar y we, does dim ffasiwn beth â ‘theyrngarwch’ i flog/gyfrif penodol. Mae eisiau hyrwyddo pob cofnod ar rhwydweithiau cymdeithasol. Gwthiwch Stwff Da A Phaid  Bod Yn Swil.

5… (Byddwn i’n croesawu mwy o syniadau.)

O ran 4, hoffwn i feddwl bod modd gosod system sydd yn rhyddhau pobl i flogio heb boeni am gyhoeddusrwydd… Er fy mod i’n rheoli Blogiadur bellach, dw i ddim 100% yn hapus gydag e.

Gwybodaeth rydd ac Amcan X

Dw i ddim wedi bod yn cysylltiedig iawn yn ystod yr Eisteddfod. Dw i’n meddwl bydd fideo o’r sesiwn Hacio’r Iaith yn stondin Prifysgol Aberystwyth ar gael ar y we.

Yn y cyfamser hoffwn i sgwennu ymateb i’r cwestiwn yma:
http://twitter.com/#!/crisdafis/status/98033648636395520

Tipyn bach o gyd-destun. Roedden ni’n hoffi’r opsiynau eraill ond doedden nhw ddim yn digon:

  • Google Blog Search – bron pob blog ar y we ond ble mae’r blogiau Cymraeg? Anodd i’w ffeindio os ti eisiau pori – mae stwff Cymraeg ar goll. Dyma un angen enfawr yn Gymraeg ac ieithoedd bychan – uno darnau o’r we gyda’i gilydd.
  • Blogiadur – ‘blog o flogiau’ gyda blogiau Cymraeg (88 blog ar hyn o bryd). Trefnwyd yn ôl amser.
  • awgrymiadau gan ffrindiau – ‘ar hap’
  • dolenni mewn ebost/gwefannau eraill – ‘ar hap’

Nawr mae gyda ni:

Mae’r cwestiwn yn dilys, pam ydyn ni wedi bod yn treulio amser i gasglu Yellow Pages o flogiau?

Dilyn. Rydyn ni wedi bod yn chwilio am flogiau yn yr iaith Gymraeg fel darllenwyr/ymwelwyr. Pam ddarllen/dilyn/edrych at/gwylio/gwrando ar/tanysgrifio i flogiau? Newyddion, digwyddiadau lleol, barnau, fideo, hwyl, ymgyrchu, coginio, hobïau a diddordebau ayyb ayyb – beth bynnag mae pobol yn ei drafod o ddydd i ddydd.

Ychwanegu blogiau i’r strwythur o ddolenni. Mae lot o flogiau yn anweledig i ryw raddau. Mae un dolen arall yn anfon ymwelwyr dynol a bots fel Google.

Ymchwil ac ystadegau. Mae rhai o bobol eisiau astudio’r (tua) 288 blog Cymraeg ar y we. Dw i’n meddwl am waith academaidd gan Daniel Cunliffe, Courtenay Honeycutt ac eraill yma (a’u papur am flogiau Cymraeg ar Blogiadur). Hefyd mae’r Rhestr yn sgil-cynnyrch o’n gwaith a dw i eisiau anfon mas y neges am rhannu stwff fel ’na.

Cofnodi ac hanes. Mae lot o bwyslais ar amser real a chofnodion newydd (gweler hefyd: Twitter). Gwych ond beth am fywyd i’r ‘hen’ cynnwys sydd dal yn berthnasol i rywun? Beth am y blogiau sy’n cysgu?

Dysgwyr iaith a datblygiad personol o’r iaith. Mae lot fawr o ddysgwyr ar y we. Yn aml iawn maen nhw yn mynd i’r we i weld Cymraeg – yn enwedig dysgwyr heb lot o ffrindiau Cymraeg a dysgwyr tu allan i Gymru. Mae hynny yn hawdd iawn i’w anghofio os ti’n nofio yn Gymraeg fel siaradwr rhugl.

Amcan X

Amcan X yw’r rheswm pwysicaf. Mewn ffordd does dim ots beth oedd tarddiad Y Rhestr neu Hedyn. Efallai mae amcanion yr aelodau/cyfranwyr yn ddiddorol i ti, efallai ddim. Mae’r wybodaeth Y Rhestr ar gael i bawb yn y byd beth bynnag.

Mae’r wybodaeth am ddim ac yn rhydd.

Gweler hefyd: rhyddid sero gyda meddalwedd rydd.

Bydd e’n neis cael teclynnau sy’n dibynnu ar y data mewn blogiau hefyd. Mae unrhyw un yn gallu bwydo ei dogfen neu taenlen/dogfen gyda data o’r Rhestr. Cer amdani. Neu meddalwedd – er enghraifft, peiriaint chwilio o flogiau Cymraeg. Dw i’n meddwl am Blogiadur ar hyn o bryd – mae Aran Jones wedi anfon yr allwedd i fi. Oes angen rhywbeth fel Umap neu Indigenous Tweets ar gyfer blogiau? Beth yw’r pynciau poeth heddiw?

Syniad. Efallai mae rhywun eisiau dadansoddi geiriau neu dermau ayyb ar blogiau gwahanol neu gynnwys y trafodaethau, e.e. pleidiau a phethau gwleidyddol.

Mae popeth yn dibynnu ar breuddwydion, gwaith, diddordebau a chreadigrwydd. Argraffa crys-t neu cylchgrawn gyda chynnwys Hedyn os ti eisiau. (Gyda llaw gawn ni newid y drwydded i rywbeth mwyaf agored?)

7 blog Cymraeg newydd sbon

Dw i’n rhedeg cwrs yng Nghaernarfon ar hyn o bryd am gyfryngau cymdeithasol gyda Cyfle a saith person o gwmnïau a sefydliadau gwahanol. Rydyn ni wedi siarad am lot o bethau gwahanol.

Nes i ddechrau gyda Google Docs er mwyn creu rhywle i adael dolenni a rhannu nodiadau. Mae’r dogfen wedi bod yn wych fel sail cymuned ar-lein bach o wyth (y saith a fi). Mae’n arbed amser i gadw nodiadau yn gyffredin.

Wedyn gwnaethon ni ddechrau blogiau ar wordpress.com. Dyma rhestr o’r blogiau newydd. Croeso i ti adael sylwadau ar y blogiau!

Dylai pob dolen yma gadael pingback ar bob blog (pingback yw sylw awtomatig sydd yn cael ei adael gan blog). Mae’r pobol i gyd ar Twitter hefyd.

Bydd mwy o gynnwys ar y blogiau dydd Mercher, diwrnod y project. (Yn y cyfamser dyma rhestr o flogiau Cymraeg.)

Chwilio am blatfform? Osgoi unrhyw beth secsi…

Dw i ddim yn proffwydo bywyd sefydlog i Tumblr fel platfform blog.

(Dw i’n meddwl am flogio bob dydd, yn arbennig achos rydyn ni’n casglu blogiau Cymraeg ar hyn o bryd ar Y Rhestr Hedyn.net fel archwiliad ac adnodd.)

Pam ydy pobol yn defnyddio Tumblr?

Wel mae’n hawdd. Mae’n gweithio heddiw.

Mae’n ffasiynol.

Mae’n secsi.

Fel unrhyw beth fel ’na bydd e’n mynd mas o steil rhywbryd yn y dyfodol. I fi mae’n teimlo fel ffad. Ateb blogio i’r hoola hoop.

Mae unrhyw beth yn gallu digwydd i blatfformau, mae’n dibynnu ar lot o bethau. Weithiau mae cwmniau cryf yn tynnu’r plwg achos mae gyda nhw rhywbeth “gwell”, e.e. mae Google Video yn dod i ben achos mae gyda nhw YouTube.

Ond fel arfer mae’n digwydd achos mae cwmnïau yn prynu cwmnïau bychain, am y talent neu adnoddau eraill yn unig weithiau, a chael gwared â rhai o’r gwasanaethau (Pownce) neu stopio ei datblygiad (FriendFeed). Weithiau mae diffyg datblygiad, defnyddwyr a chariad – fel Geocities, mae Yahoo yn anfon y peth, gyda dy waith yn dy iaith, i’r machlud haul. Dydyn ni’n methu dibynnu ar archifau neu Archive.org bob tro t’mod.

Neu wrth gwrs mae’r cwmnïau jyst yn dod i ben.

Mae Tumblr yn teimlo, i fi, fel rhywbeth o’r un fath. Dim ond teimlad sydd gyda fi. Bydd cwmni cyfryngau enfawr di-glem sydd eisiau pwyntiau cŵl yn ei brynu. Efallai MTV. Ie, MTV. (Rhagfynegiad! Y cwmni mawr tu ôl MTV fydd y cwmni i’w brynu. Yn 2013.)

Dw i wedi ei brofi a dyw e ddim yn ddibynadwy o ddydd i ddydd chwaith.

Yn diweddar mae un o’r blogwyr mwyaf cyson dw i’n dilyn wedi newid o WordPress i Tumblr, sef Morfablog. Mae rhai fel Guto Dafydd wedi dechrau postio pethau bychain ar y platfform hefyd. Mae’n braf iawn i weld y blog arddechog Dyl Mei o’i chasgliad o gerddoriaeth hefyd. Ond efallai ddim ar Tumblr.

Bydd y stwff yna wythnos nesaf? Dw i’n meddwl. Beth am flwyddyn nesaf? Mae’n debyg. Ond blynyddoedd i ddod? Hmm.

Rydyn ni’n siarad am flogiau o ansawdd yma, nid jyst lluniau o sneakers, graffiti a phobol noeth fel lot o flogiau Tumblr eraill.

Mae hwn yn beryg i unrhyw blatfform dan gwmni, dyma pam dw i’n rhedeg y cod WordPress fy hun.

Ond i bobol sy’n chwilio am blatfform hawdd a chyflym fel arfer dw i’n awgrymu WordPress.com. Does dim byd rong gyda Blogger chwaith, mae pobol yn ei defnyddio a dyw e ddim yn cystadlu ar bortffolio Google gydag unrhyw beth arall (heblaw efallai Buzz ond ni’n saff yna). Yn hytrach na hipsters yn unig mae busnesu a hipsters yn defnyddio WordPress.com a Blogger, sydd yn beth positif. Dyna ni – platfformau gyda safety in numbers, solet, ac sydd ddim yn secsi o gwbl (dyna dy swydd di, nid y blatfform). Ar WordPress.com mae lot o’r defnyddwyr yn talu am y gwasanaeth, maen nhw yn gwsmeriaid go iawn.

Gobeithio fi’n hollol anghywir yma. Ond dw i ddim yn ymddiried Tumblr gyda fy ngwaith – neu fy iaith.

4 categori o wefannau a blogiau yn Gymraeg

Mae lot o bobol yn gyffrous am y real-time web ar hyn o bryd.

Digon iawn. Ond hefyd mae gyda fi diddordeb yn y we BARHAUS. Yn enwedig y we Gymraeg.

Dw i wedi bod yn darllen trwy Maes-E, Morfablog, Gwenu Dan Fysiau, Daflog ac archifau o flogiau a gwefannau clasur eraill. Gwnaf i fwrw’r gwaelod cyn bo hir.

Dw i wedi ffeindio pedwar categori o wefannau ar fy siwrnai ar y ffordd. Sgen i’m bwriad bod yn sarhaus. Eisiau trafod y we barhaus.

1. “Dyma’r Ffordd i Fyw”
Blogiau a gwefannau sydd dal yn joio cofnodion newydd a diweddariadau. Dw i’n darllen nhw mewn Google Reader neu ddilyn dolenni ar Twitter. Mae’n hawsa i ffeindio nhw na gwefannau yn y categorïau isod. Dw i’n rhedeg gwefannau yn y categori hwn (Hacio’r Iaith, Y Twll, PenTalarPedia a Hedyn). Fel teclyn mae Blogiadur dal yn eitha da am ffeindio cofnodion dw i wedi colli ar y tro cyntaf.

2. “Sdim Eisiau Esgus”
Mae hwn yn grŵp mawr iawn. Dal yn fyw ar y we ond dyn nhw ddim yn cael eu diweddaru. Blog Gareth Potter yw enghraifft. Maen nhw yn “cysgu” mewn ffordd i’w blogwyr. Ond dyn ni’n gallu anghofio’r fantais o’r gwefannau yma – maen nhw yn fyw i’r darllenwyr. Felly dyn ni ddim eisiau esgus, mae’n iawn, ond paid colli dy hen blog! Dw i’n gallu gweld cyfleoedd i greu ffilteri e.e. teclynnau chwilio sy’n gynnwys y categori hwn (Google Custom Search a mwy). Dyna pam dw i eisiau casglu nhw ar Hedyn. Beth yw’r gwersi? Ystadegau hefyd. Pa fath o dyfiant ydyn ni wedi gweld? Faint o flogwyr sy wedi gadael blogiau nhw i gysgu? Syniadau am projectau ymchwil.

3. “Byw Ar Y Briwsion”
Weithiau dyw pobol ddim yn adnewyddu eu enwau parth neu gwesteia. Felly dyn ni’n colli eu gwefannau. Pwy sy’n cofio Dim Cwsg, fforwm cymuned am godi plant? Dw i ddim angen y wybodaeth nawr – ond beth am y dyfodol? Beth ddigwyddodd gyda’r wefan Adam Price eleni? Dw i’n siomedig iawn os dw i’n ffeindio sôn am rywbeth ac wedyn dyw e ddim yn bodoli. Diolch byth am Archive.org – ond dyw e ddim yn gallu cadw popeth, jyst briwsion weithiau. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw archif eu hun yn ôl pob sôn – chwarae teg – ond ble mae e? (Mae unrhyw un yn gallu copïo fy mlog am unrhyw archif. Os oes gyda ti diddordeb, dw i wedi rhoi caniatâd i bawb dan Creative Commons.)

4. “Hwyl Fawr Heulwen”
Y categori olaf yw blogiau sy ddim ar y we, ddim ar Archif, ddim yn unlle, jyst yn dev/null. Mae ddoe yn ddoe – yn anffodus. Mae pobol yn colli eu blogiau a gwefannau weithiau am lot o resymau. Neu trwy ddamwain, diffyg gofal, dileu, colli enwau parth, colli gwesteia, gwasanaethau drwg a theclynnau drwg maen nhw yn colli eu blogiau a gwefannau. Ond nid jyst nhw, dw i’n colli nhw, ti’n colli nhw a mae pawb sy’n chwilio am bethau Cymraeg yn colli nhw. Mae pob iaith yn colli blogiau. Baswn i ddim yn colli lot o gwsg am blogiau Saesneg achos mae’r iaith yn iawn. Ond yn Gymraeg mae’r sefyllfa yn ddifrifol. Wrth gwrs mae gyda unrhyw un yr hawl i ddileu ei blog hefyd. Ond mae fe dal yn siomedig.

Yr ail degawd

Mae’r cofnod yma gan Nic Dafis, Ebrill 2001 yn gategori 2 (mae fe’n blogio ar Morfablog nawr).

Dyn ni’n symud i’r ail ddegawd o flogiau Cymraeg ac eisiau datblygu “cymunedau arlein” a thrafodaeth ar y we. Sa’ i’n eisiau ailadrodd beth sy wedi digwydd yn barod. Dw i eisiau datblygu’r drafodaeth mewn ffordd gyda’r gwersi’r degawd cyntaf.

Wrth gwrs dyn ni eisiau ailymweld sgyrsiau ac erthyglau Cymraeg am wleidyddiaeth, cerddoriaeth, hanes, diwinyddiaeth, gwyddoniaeth a phob pwnc dan yr haul.

Er enghraifft, pan oedd Nic yn blogio am Maes-E mae fe wedi rhannu gwersi gyda ni yn y dyfodol am gymunedau a sgyrsiau ar y we.

(Gyda llaw, beth ddigwyddodd gyda’r archif Maes-E? Er enghraifft, dyw’r erthygl Tips ar neud Ffansin gan Mihangel Macintosh ddim ar gael trwy’r wefan – roedd rhaid i mi fynd i archive.org.) YCHWANEGOL: Ateb yn y sylwadau isod

Wrth gwrs dyw Facebook ddim yn helpu o gwbl gyda’r broblem cynnwys sy’n agored a pharhaus. Dyma pam dw i ddim yn licio Facebook llawer yn y cyd-destun hwn. Mae’n ddefnyddiol am lot o resymau wrth gwrs ond mae’n rhy breifat a rhy anodd i chwilio am bethau. Fel arfer mae’n well i blogio ar WordPress.com a rhannu dolenni ar Facebook neu gopïo’r testun i Facebook.

Mae Facebook yn cyflymu symudiad ieithyddol hefyd. Cofnod arall.

Bygythiadau

Bygythiad yw teclynnau sy’n byrhau URLs. Dw i ddim yn hoffi nhw o gwbl achos dw i eisiau URLs sy’n gweithio am flynyddoedd. Weithiau ar Twitter rhaid i mi defnyddio rhywbeth yn anffodus felly dw i’n dewis bit.ly achos mae’n poblogaidd o leia. Safety in numbers – gobeithio.

Ond mae pob gwasanaeth am ddim yn beryglus mewn ffordd, e.e. Geocities. Bydd lot o wasanaethau am ddim yn gorffen neu yn anfon ein gwaith i gategori 4. Bydd yn ofalus gyda dy waith caled.

Blogiau lleol am Cardiff, Cymru

Mae tair enghraifft o wefannau am newyddion lleol yn y brifddinas yn dechrau.

  1. Bydd y blog The Guardian gan ‘beatblogger’ lleol yn dechrau cyn hir. Roedd Guardian yn esbonio’r meddyliau a staff tu ôl y fenter. Twitter: GdnCardiff
  2. Mae yourCardiff newydd wedi cael eu lansiad gan Media Wales. Mae 16 person gwahanol yn cyfrannu ond mae un person yn unig yn gweithio fel gweithiwr i Media Wales. Mae’r cyfranwyr eraill yn sgwennu i ddweud straeon, hybu digwyddiadau a rhannu profiadau. Twitter: yourcardiff
  3. Capture Cardiff yw rhywbeth hollol annibynnol o gwmniau cyfryngau traddodiadol. Mae llawer o bobol yn cyfrannu. Twitter: capturecardiff

Mae enghreifftiau eraill yn bodoli yn barod siŵr o fod. Ond ro’n i eisiau sôn am Capture Cardiff. Mae’r wefan yn dangos sut ti’n gallu dechrau blog lleol ar dy ben dy hun. Gyda chyfeillion.

Mae yourCardiff a Capture Cardiff yn defnyddio WordPress – meddalwedd rydd ac am ddim. Prynodd rhywun yr enw parth capturecardiff.com ar y diwedd mis Ionawr a dechreuodd yn syth.

Pobol Caerdydd, ydyn ni eisiau rhywbeth fel hwn yn Gymraeg? Neu… rhywbeth gwahanol? Ble mae’r ‘cymuned Cymraeg yng Nghaerdydd’ yn bodoli? Wyt ti’n gallu siarad am y ‘gymuned Cymraeg’ yng Nghaerdydd? Mae’r papur bro’r Dinesydd gyda ni bob mis wrth gwrs. Ond mae llawer mwy o bethau eraill yn digwydd!

Dyn ni’n gallu darllen The Guardian. Bydd e’n dda, dw i’n siŵr. (Bydd e’n edrych fel y blog Leeds.) Ond ble mae’r lleisiau Cymraeg am newyddion ym mhrifddinas Cymru? (Newidiais i’r teitl i ddweud Cardiff wrth ddechrau trafodaeth.)

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae llawer o gyfleoedd i gael lleisiau sy wedi bod yn anweledig. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? Dyn ni’n casglu enghraifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.

Mae sgwrs newyddion lleol yn digwydd ar y wefan Hacio’r Iaith hefyd.

Gyda llaw, mae Caerdydd yn rhy fawr i ddefnyddio’r gair hyperlocal am yr enghraifftiau yma. Mae golygiad y gair yn benodol iawn. Basai hyperlocal yw rhywbeth yn ardal yn unig, neu weithiau stryd yn unig. (‘Splottify’ unrhyw un?).

Llun gan iwouldstay

Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.

Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? (Machynlleth?) Dyn ni’n casglu enghreifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.