Llyfr Martin Luther King a’r dull di-drais o brotestio

Gadawodd Martin Luther King y byd hwn union 45 mlynedd yn ôl.

Heno dw i wedi cael cip arall ar y llyfr Martin Luther King gan T.J. Davies y cyhoeddiwyd yn 1969.

martin-luther-king-t-j-davies-511

Mae darn sylweddol am y dull di-drais o brotestio. O’n i ddim o gwmpas yn ’69 ond mae’n debyg y darllenodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y geiriau hyn gyda diddordeb ar y pryd.

Martin Luther King gan T.J. Davies

Martin Luther King gan T.J. Davies

Does bron neb yn gallu cael gafael y llyfr yma. Mae prinder o gyfleoedd i’w ddarganfod. Does neb yn wneud arian neu dderbyn clod am y gwaith – does neb wedi gwneud yr ymdrech i’w rhyddhau eto gan gynnwys e-lyfr neu fersiwn digidol.

Mae’r llyfr bron yn anweledig! Dw i wedi gwneud pwyntiau tebyg o’r blaen, e.e. Afal Drwg Adda ond dw i’n dweud eto.

Os wyt ti eisiau darllen mwy o’r llyfr hwn gadewch sylw isod achos dw i’n gallu rhannu’r llyfr gyda chi os oes digon o alw. Dw i’n meddwl bod hynny yn hollol iawn heblaw os oes problem gydag unrhyw un.

Dyma lyfr yn Gymraeg sydd yn delio gyda phwnc sydd ddim yn Gymreig o reidrwydd. O ran llyfrau newydd fyddai llyfr o’i fath yn cael ei gomisiynu yn Gymraeg y dyddiau hyn? Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ’diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?

6 Ateb i “Llyfr Martin Luther King a’r dull di-drais o brotestio”

  1. Diolch am rannu – wyddwn i ddim am fodolaeth y llyfr. Ac eithrio llyfrau ffeithiol trymion am rhyw feirdd am tua £50 gan Wasg Prifysgol Cymru, does yna ddim lot o sgwennu meddylgar Cymraeg i’w weld yn cael ei gyhoeddi y dyddiau hyn.

    Mae’n debyg ei fod dal mewn print, ond sylwais ddoe bod llyfr Cymraeg wedi ei gyhoeddi o waith Leopold Kohr yn 1980 gan y Lolfa.

  2. Y gyfrol Canu Caeth (2010) yn llawn ysgrifau amrywiol ar berthynas Affro-Americaniaid a’r Cymry. Rwy’n tarfod TJ yn y cyflwyniad. a’i gyfrol ar Paul Robeson yn y bennod ar Robeson. Simon Brooks, Jerry Hunter, Helen Mary Jones, ymysg eraill yn y gyfrol.

    Yn fwy swmpus a gen i yn unig: http://www.amazon.co.uk/Black-Skin-Blue-Books-Americans/dp/0708319874

    Sorry am yr hunan-hysbys, ond gan fod gen ti ddiddordeb amlwg yn y pwnc….

  3. Mae llyfrau allan o brint wedi bod yn broblem ers o leiaf 50au’r ganrif ddiwethaf.
    Mae’n siwr fod hawlfraint yn un rheswm ond byddwn yn gobeithio y byddai yn haws y dyddiau hyn gyda dulliau electronig ond y gwir yw mae’r gweisg yn cael grantiau i gyhoeddi llyfrau newydd – ddim mor hawdd i gael grant i ad-argraffiad

    Gyda gwerthiant ansicr mae’n amheus a oes elw i’w wneud wrth ad-argraffu. Dyma rhywbeth y dylai y Cyngor Llyfrau ymwneud ag ef o ddifri.

    “Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ‘diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?”

    Mae toreth o lyfrau ar gael -yr anhawster yw taw llyfrau diweddar gan mwyaf sydd yn cael cyhoeddusrwyth. Chwiliwch gatalog y Cyngor llyfrau ar wefan Gwales

Mae'r sylwadau wedi cau.