Bywyd cynnwys Cymraeg – gwers Evernote

Dw i’n meddwl ers mis am yr ‘ymddiriedolaeth’ newydd tu ôl Evernote a’r stori Evernote yma:

[…] But Libin [o Evernote] believes that he can encourage even more people to park their data with Evernote if he can remove any question of doubt about his company’s long-term destiny. To this end, he plans to later this year introduce a legally binding promise that guarantees users 100 years of access to their files — not that his customers will be around that long.

This involves setting up a protected fund that, in the event of Evernote being taken over or shut down, will pay to maintain its data banks. […]

Dw i wedi blogio sawl gwaith am golled blogiau/gwefannau Cymraeg ac mae’r weledigaeth yn achos Evernote yn wych.

Hoffwn i weld rhywbeth tebyg ar gyfer cynnwys Cymraeg – sef fideos, testun, lluniau, awdio ayyb – ar draws y we i gyd. Y cynllun yw, rwyt ti orfod optio mewn er mwyn cadw dy gynnwys yn yr archif. Byddwn i’n cynnig fy mlog yn sicr. Wrth gwrs dw i wedi rhyddhau popeth dan drwydded rydd felly mae croeso i ti copïo fy mlog.

Yr unig beth tebyg ydy’r archif gwe yn Llyfrgell Genedlaethol ond does neb yn gwybod sut i gael gafael arno fe. Does dim byd o’r archif ar y we.

Dw i’n siŵr bod Cymry Cymraeg yn pryderu mwy am ddyfodol ‘cynnwys’ yn eu hiaith na lot o siaradwyr ieithoedd mawr hyd yn oed. Dylen ni. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob darn o gynnwys da, dydyn ni ddim yn ei gymryd yn ganiataol. Bydd cenhedloedd Cymru yn y dyfodol yn gwerthfawrogi archifau o hen gynnwys ac yn wondro pam mae ein cenhedlaeth ni wedi gadael lot o stwff ar y we i ddiflannu yn llwyr. Mae cyfle i fod yn arloesol yma ac wrth gwrs i sicrhau ein gwareiddiad deallusol.

2 Ateb i “Bywyd cynnwys Cymraeg – gwers Evernote”

  1. Cytuno Carl. Dwi’n poeni na fydd y cofnodion hanesyddol o’r oes presennol ar gael i genedlaethau’r dyfodol fel y maen nhw ar hyn o bryd.

    Un pwynt ychwanegol – mae llawer o gynnwys Cymraeg sy ddim ar gael ar lein eto. Er enghraifft hen gyfresi S4C fel y Ddau Frank. Hyd yn oed os dych chi’n fodlon talu, ond pam?

  2. Ie, cenedlaethau’r dyfodol yn bwysig ond hefyd mae pethau o ddegawd yn ôl sydd wedi diflannu hefyd!

    Mae costau ffrydio yn yr achos fideo. Ble oedd Dau Frank? Roedd llwyth o bethau ar wefan ITV Cymru fel Pobol y Chyff. Dydyn nhw ddim ar gael rhagor. 🙁

Mae'r sylwadau wedi cau.