Cynseiliau ieithyddol ar y we

Mae Ifan Morgan Jones newydd gyhoeddi siart o’i hoff blogiau ar Golwg360 sy’n ddiddorol (er bod y dewisiadau bach yn drwm ar yr ochr sosejol, fel lot o bethau yng Nghymru batriarchaidd).

Mae fe’n dweud:

[…] Rhif 6: Quixotic Quisling
Efallai fod cynnwys blog ddwyieithog yn gosod cynsail peryglus […]

Wel, mae’n dibynnu ar bobol eraill. Hoffwn i feddwl bydd mwy o flogiau uniaith Saesneg ar y we yn dechrau cyhoeddi yn Gymraeg…

🙂

4 Ateb i “Cynseiliau ieithyddol ar y we”

  1. Pwynt da fod y rhestr yn dipyn o ’sausage-fest’. Efallai fy mod i, yn ddiarwybod, wedi disgyn i’r un twll a detholwyr rhestr deg uchaf Sports Personality of the Year y BBC? Neu efallai mai dynion sy’n tueddu i gynnal blogiau yn y lle cyntaf?

    Beth bynnag, dewis personol yw’r rhestr – croeso i chi gynnig dewis amgen. 🙂

  2. Wedi cael pip drwy’r rhestr uchod. Dw i’n gyfarwydd gyda’r rhan fwyaf o’r blogiau ond fyddwn i ddim yn newid fy rhestr 10 uchaf ryw lawer. Os ydi fy rhestr hoff flogiau yn digwydd bod yn ‘sosej-fest’, wel dyna ni. Dim ond fy hoff flogiau i ydyn nhw wedi’r cwbwl. Does dim seremoni wobrwyo fawreddog ym Mae Caerdydd. 😉

Mae'r sylwadau wedi cau.