Teledu, S4C a YouTube – meddyliau a ffigyrau

Mae’r BBC wedi cael “sianel” swyddogol ar YouTube ers 11fed mis Tachwedd 2005 – gyda chlipiau o bob sianel teledu, bron bob genre o rhaglennu, Comic Relief, Eurovision a digwyddiadau eraill.

Syniad “amlblatfform” a syml iawn ond da am S4C. Heddiw mae gyda BBC ar YouTube 8161 fideo ond rhaid i ni gofio bod unrhyw cyfrif yn dechrau gydag un fideo. Mae 1884 diwrnod wedi pasio ers cychwyn y cyfrif. Felly y nifer cyfartalog o fideos newydd bob dydd yw tua 4 fideo. Pedwar fideo yn unig. (Siwr o fod gyfradd o lanlwytho wedi codi ers y cychwyn.)

Mae Dafydd Tomos a fi wedi siarad am Uned 5 ar y blog yma yn y gorffennol. Weithiau mae BBC yn defnyddio cyfrifon arbennig am rhaglennu, e.e. BBC Classic Doctor Who.

Baswn i’n hoffi sianel neu cyfrif S4C, dyma’r manteision:

  • parhaus (tyfu archif achos dyn ni’n colli rhaglennu ar Clic bob dydd)
  • byd-eang
  • gwesteia am ddim felly menter rhad
  • mae pobol yn gallu mewnosod y fideos ar eu blogiau, tudalennau Facebook
  • neu rhannu dolenni
  • mwy o bresennoldeb S4C o gwmpas y we / ffonau symudol
  • hyrwyddo rhaglennu sy’n fyw ar S4C (postiodd BBC clip o The One Ronnie 5 diwrnod o flaen llaw dw i’n meddwl)
  • hyrwyddo Clic gyda dolenni
  • serendipedd – mae system YouTube yn wych am ddarganfyddiad
  • hyrwyddo DVDs (gweler enghraifft Monty Python ar YouTube a gwerthiannau DVDs)
  • arian ychwanegol?
  • sylwadau
  • ystadegau, gweler isod

Dw i’n hoffi 4, mae’n swnio fel nifer da. Beth am 1 bob dydd? Neu 7 ar diwedd yr wythnos? Bydd e’n bosib ailgylchu’r isdeitlau hefyd ond efallai paid â phoeni amdano fe ar hyn o bryd.

Gwnes i arbrofiad gyda Pen Talar llynedd. O’n i eisiau siarad am y rhaglen gyda ffrindiau arlein. Felly postiais i glipolwg ar YouTube (666 gwyliwr, 3 sylw, 5 hoff, hyd yn hyn).

Gyda llaw roedd y fideo cyntaf yn fwyaf poblogaidd gyda’r grwp 13-17 o fechgyn ifanc. Demograffig “anodd” yn ôl bob sôn! Cafodd e wylwyr yn yr UDA, Awstralia, De America ac wrth gwrs y DU. Mae’r rhan fwyaf o wylwyr yn chwilio.

Dilynodd clipolwg am bob pennawd arall. Gwnes i bostio’r llall a chreuodd pobol eraill o leia 2 playlist. Cyfanswm o wylwyr clipolygon? 1109, nawr dychmyga’r un peth gyda chefnogaeth swyddogol.

Gweler hefyd:

Un Ateb i “Teledu, S4C a YouTube – meddyliau a ffigyrau”

  1. Dwi ddim yn deall pam nad ydi S4C yn gallu gwneud be mae’r sianeli eraill wedi gwneud a chreu partneriaeth gyda YouTube i rhoi cynnwys archif ar lein. Mae’n siwr y byddan nhw’n sôn am hawliau ac arian ond esgusion ydi hynny.

    Mae archif Channel 4 yn cynnwys llwyth o hen raglenni, rhai dim ond wedi eu gwylio ychydig gannoedd os hynny. Dwi ddim yn dychmygu bo nhw’n gwneud arian mawr allan ohono.

    Wedyn mae archif teledu STV – yn wahanol i HTV, fe wnaeth Sianel 3 yn yr Alban gadw ei hunaniaeth fel cwmni ar wahan. Mae ganddyn nhw pob pennod o Take The High Road erioed!

    Dwi ddim eisiau gweld pob hen bennod o Pobol y Cwm chwaith, ond mae archif Cymraeg y BBC o ddiddordeb hanesyddol a chymdeithasol (y newyddion a’r rhaglenni dogfen yn fwy na’r sebon efallai). Does dim llawer o archif BBC Cymru ar lein heblaw’r arbrawf yma o 2003. Mae technoleg wedi symud ymlaen o RealPlayer a fe fydd BBC Cymru yn 90 oed yn 2013.. beth am ddiweddariad BBC?

    O ran gwefan HITV – mae ambell i beth da yn eu harchif nhw ond mae’r rhyngwyneb yn wael a dyw e ddim wir wedi ei adeiladu ar gyfer cynnwys rhestri hir o raglenni.

    Fel wnes i sôn o’r blaen mae S4C wedi adaseinio hawliau archif nôl i’r cynhyrchwyr gwreiddiol (os ydyn nhw dal i fodoli). Felly dwi ddim yn gweld unrhyw gymhelliad i S4C wneud unrhywbeth gyda’i archif (heblaw y slot Aur sydd yn llenwi bwlch rhwng rhaglenni plant a’r prif raglenni) – ond fe ddylai fod yn un o’i dyletswyddau craidd.

Mae'r sylwadau wedi cau.