S4C a Golyg/BitTorrent, ffrindiau neu gelynion?

Ble ddylwn ni edrych am arwyddion i’r byd newydd amlblatfform teledu?

Y sin “tanddaearol” yw ateb bosib, gyfeillion.

Yn ddiweddar, lansiodd rhywun annibynnol y wefan Golyg.com.

Golyg yw darpariaeth “tanddaearol” am bobol i lawrlwytho raglenni S4C cyfoed-i-gyfoed. Mae Golyg yn cynnig rhestr o ffeiliau torrent sy’n gweithio gyda rhaglenni BitTorrent, e.e. uTorrent.

Mae pobol eisiau bod yn wylwyr. Weithiau mae pobol eisiau defnyddio darnau o’r rhaglenni gyda phrojectau ysgol, sylwebaeth wleidyddol, projectau hwyl a rhesymau eraill. Dw i’n siwr byddi di’n cytuno, mae hwn yn newyddion ardderchog am yr iaith Gymraeg. Yn fy marn i, Golyg y’r darpariaeth dosbarthiad mwya cyffrous ar hyn o bryd. Dw i’n hoffi Clic wrth gwrs ond weithiau dw i’n galw fe S4C Clique: mae rhaglenni yn dod i ben ar ôl cyfnod, fel arfer dyn nhw ddim ar gael byd-eang. Mae Golyg yn lleda’r rhaglenni o gwmpas y byd. Felly dw i’n hoffi Clic ond dw i’n caru Golyg.

Mae swyddog cyfathrebu S4C wedi gadael sylw ar cofnod blog Hacio’r Iaith fel ateb i Golyg. (Chwarae teg i S4C achos dyn ni’n hoffi cyfathrebu agored. Didynnu pwyntiau am y diffyg enw go iawn, jyst yr enw “S4C”.)

Dyma’r sylw:

Rydym yn S4C yn gwerthfawrogi bod pobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn awyddus i wylio rhaglenni S4C. Ond ar hyn o bryd nid oes gennym yr hawliau i ddarlledu ar y we tu hwnt i’r DU. Nid yw deiliaid hawliau penodol yn barod bob amser i ganiatau i darlledu byd eang ac hyd yn oed pe bae’n bosib cael yr hawl fe fyddai angen i S4C dalu’n ychwanegol er mwyn caniatau darlledu’r rhaglenni hynny.

Dyna pam mae meddalwedd ‘Geo Blocker’ yn atal gwasanaeth Clic rhag cael ei ddefnyddio’n fyd-eang.

Hoffwn ar ran S4C apelio arnoch i beidio â lawrlwytho rhaglenni gan bod gwneud hynny yn tramgwyddo ar hawliau unigolion/cwmniau eraill.

Gwerth nodi hefyd fod rhai o’r rhaglenni a gynhyrchir fel Taro 9 a CF99 ar gael yn fyd-eang.

Rhywbryd, dylen ni wynebu’r ffaith bod pobol yn copio rhaglenni S4C.

Beth am rhyw fath o arbrawf gyda trwyddedu agored? (Fel yr enghreifftiau BBC neu, gwell, Al Jazeera.)

Mae YouTube wedi bodoli am bron chwe blynedd hefyd. Mae pobol yn rhannu rhaglennu yna. Ble mae’r rhaglenni yn mynd ar ôl darlledu ac ar ôl Clic? DVD? Fel arfer maen nhw yn mynd i archif cudd rhywle anhysbys. Mae mwy o gynnwys Cymraeg gwerthfawr yn marw yna nag unrhyw le arall yn y byd.

Plîs paid â chael gwared o ddarlledu, y sianel arferol a Clic. Ond dylen ni wynebu amlblatfform ac yn fy niffiniad mae amlblatfform yn gynnwys trwyddedu. Dw i ddim yn gofyn am strategaeth (eto), dim ond arbrofion. Beth am arbrawf gyda torrents a YouTube i ddechrau? Does dim angen meddalwedd newydd, dim ond cytundebau/hawliau gwahanol. Bydd y wasg yn hoffi’r prawf hefyd. Bydd yn arbrofol.

Gwnaeth CBC (Canada) rhywbeth diddorol yn 2008:

A TV broadcaster has entered a realm dominated by pirates by distributing its latest prime-time show – without copyright protection – via the file-sharing network BitTorrent.

The CBC, the Canadian equivalent of the ABC in Australia, has announced that its new reality show Canada’s Next Great Prime Minister would be available to download using BitTorrent.

Contestants on the hit show battle it out by coming up with ideas to make Canada a better place.

On the program’s blog, a CBC official said: “The show will be completely free (and legal) for you to download, share & burn to your heart’s desire.”

It is believed to be the first time a prime-time English-language program has been distributed by its original broadcaster through the internet without any form of copyright restrictions.

Mwy ar TorrentFreak, The Economist neu GigaOM

Golyg is a new website that allows people to download S4C programmes peer-to-peer. In the above post, written in Welsh, I urge S4C to be more experimental and pay attention to the exciting things that are now possible through such means of distribution. Here’s a post in English about how piracy can sometimes mean potentially-legitimate-but-as-yet-unlicensed.

5 Ateb i “S4C a Golyg/BitTorrent, ffrindiau neu gelynion?”

  1. Dyw torrents ddim yn newydd wrth gwrs. Mae pobl wedi rhannu rhai rhaglenni Cymraeg ar uknova a thebox ers blynyddoedd. Ond mae’n llawer haws i’w darganfod drwy gael un gwefan (a haws i’w ymladd hefyd os oedd unrhyw weithred gyfreithiol).

    Dwi’n hoffi be wnaeth Uned5 (RIP) wneud drwy roi clipiau byr, bachog ar ei sianel YouTube. Fe fasen bosib gwneud hynny gyda pob math o raglenni ‘cylchgrawn’ ond beth sydd ar goll yw’r rhaglenni hirach fel dramau, comediau a dogfennau.

    Fel llawer o bethau sy’n digwydd yng Nghymru, mae S4C wedi ei glymu fewn i cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o ran darlledu, hawliau deallusol, cytundebau gyda perfformwyr ac ati, felly dwi ddim yn gweld y sefyllfa yn newid yn fuan iawn.

  2. Pwyntiau da Dafydd. Ro’n i eisiau siarad am YouTube a torrents yn yr un cofnod fel cyfraniad bach i’r sgwrs gyfoes am “amlblatfform”. Maen nhw dau yn dda achos dyn nhw ddim angen unrhyw feddalwedd newydd.

    Chwarae teg i’r bobol tu ôl Golyg achos maen nhw yn dangos yr alw am ffyrdd gwahanol o ddosbarthiad.

    Mwy am amlblatfform ar y ffordd.

  3. For many years the BBC has turned a blind eye to UKNova, indeed UKNova has provided the BBC with useful feedback and reaction to their programming output. Unlike The Box, UKNova doesn’t carry any content which is commercially available (from the BBC shop or elsewhere) and does not seek to harm the program makers.
    I dont see why S4C shouldnt turn a blind eye to golyg.com. It’s not really doing any harm, and like S4C seeks to promote and encourage the use and learning of the Welsh language.

Mae'r sylwadau wedi cau.