Gwleidyddiaeth ar Y Twll

Dyma ddwy erthygl ar Y Twll:

Rhannwch ac aildrydarwch yr erthyglau os ydych chi’n hoffi nhw. Gadewch sylw hyn yn oed, fel yn yr hen ddyddiau. Diolch o galon.

Roedd hi’n teimlo fel hen bryd i mi ddechrau comisiynu pethau gwleidyddol ar Y Twll. Mae hi’n amserol.

Mae hi hefyd yn teimlo fel bod pobl yn barod am flogiau sy’n cymysgu diwylliannau gyda gwleidyddiaeth; mae’n gweithio ar bethau fel BuzzFeed a Vice er enghraifft.

Dw i’n ystyried newid y thema WordPress i rywbeth fel cylchgrawn yn hytrach na blog er mwyn datgysylltu’r cofnodion a gwella’r cynrychiolaeth o’r hyn sydd ar gael o dan categoriau megis cerddoriaeth, ffilm, theatr, llyfrau, lleoliadau ayyb.

Yr unig beth technegol dw i wedi newid yn ddiweddar ydy cardiau Twitter. Hynny yw, os ydych chi’n rhannu dolen mae rhagolwg yn y trydariad gan gynnwys delwedd a chrynodeb o’r erthygl. Dyma enghraifft.

Bydd rhagor o bethau gwleidyddol gan fenywod a dynion dw i’n gobeithio. Gadewch i mi wybod os oes syniad ‘da chi.

Ymgyrch dros ie yn Ewrop

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffolineb llwyr.

Dw i’n penderfynol o ymgyrchu yn galed dros ie er mwyn cadw’r Deyrnas Gyfunol fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cnocio drysau, dosbarthu taflenni, lledaenu’r gair ar rwydweithiau digidol a beth bynnag arall sydd angen.

Dw i ddim yn cyffroi gymaint am ymdrechu i aros yn yr un lle. Ond weithiau dyna sydd angen.

Welai i chi ar y strydoedd?

Cwestiynu’r brif newyddion yn ôl BBC Cymru Fyw heddiw

Pennaeth canolfan Gymraeg yn ymddiswyddo.

Dyna’r brif stori ar wasanaeth newyddion Cymraeg y BBC ers chwe awr heddiw.

Dw i ddim yn dweud bod hi ddim yn addas fel stori fach o ddiddordeb i rai o bobl.

Ond ai dyna yw’r brif stori go iawn heddiw?

Mae ymwelwyr Cymraeg angen gwybod am yr economi, gwleidyddiaeth, trafnidiaeth, iechyd, addysg ac yn y blaen. Hefyd, ble mae’r newyddion rhyngwladol?

Dw i wedi sôn am hynny o’r blaen. Dw i’n hoff o BBC Cymru Fyw a dw i ddim yn rhoi bai ar y tîm newyddiadurol yng Nghymru o gwbl. Mae potensial i wneud rhywbeth gwell. Ai dyma yw’r peth gorau sy’n bosib yn y Gymraeg?

Mae’r sefyllfa yma yn adlewyrchu problemau sylfaenol gyda’r ffordd mae’r BBC fel corfforaeth yn ystyried y Gymraeg, iaith isradd ar gyfer materion plwyfol yn unig, iaith sydd ddim yn haeddu cael delio gydag unrhyw beth o bwys.

Ond mae dyletswydd ar y BBC i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus. ‘Hysbysu, addysgu a diddanu’ yw slogan y gorfforaeth. Yn y Gymraeg ar-lein dw i ddim yn gweld sut mae’r gorfforaeth yn llwyddo i gyrraedd y nod hynny.

John Bwlchllan a Merêd

Mae hi’n teimlo fel bod cenhedlaeth o gewri yn ein gadael ni.

‘Gerallt, John Davies a Merêd o fewn saith mis i’w gilydd. Mae’r sêr yn syrthio.’ meddai Gruff Antur.

‘Wir-yr, mae ‘na hen do o Gymry arbennig tu hwnt ym machlud eu dyddiau ac yn araf ddiflannu. Ac ma’n rhyfeddol drist #merêd’ meddai Jason Morgan.

Dw i wedi cyhoeddi erthyglau am Dr John Davies a Dr Meredydd Evans yr wythnos hon er mwyn ceisio dysgu a cael bach o ysbrydoliaeth.

Diolch i Osian Gruffydd am help gyda gramadeg.

‘Clywed arogl’ a damcaniaeth cwantwm

Mae gwyddonwyr cwantwm wedi darganfod rhywbeth mae Cymry yn gwybod ers canrifoedd.

(Mae’r darn uchod gan Dr Jennifer Brookes yn dod o’r rhaglen The Secrets of Quantum Physics: Let There Be Life gyda Dr Jim Al-Khalili. Daeth y rhaglen i ben ar iPlayer ond mae copi ar YouTube ar hyn o bryd. Gwyliwch o 21:05 ymlaen.)

Anturiaethau yn yr iaith Gantoneg

Dw i’n dweud pethau syml yn yr iaith Gantoneg erioed: ymadroddion syml fel ‘wyt ti eisiau paned?’, ‘blasus iawn!’, ‘Blwyddyn newydd dda’, ‘poeth’ (o ran tymheredd ac o ran sbeis, mae dau air gwahanol), ‘bore da’, ‘diolch’ a sut i gyfrif o un i ddeg.

Ond dw i’n dweud ers blynyddoedd fy mod i am ddysgu Cantoneg i fod yn rhugl. Gwella er mwyn cynnal sgwrs go iawn yw’r nod – a dysgu mwy am y diwylliannau a fy ngwreiddiau.

Dyna yw’r adduned blwyddyn newydd. Ces i gwrs ar ddisc fel anrheg Nadolig gyda 14 gwers dros saith awr. ‘Na gyd dw i’n gorfod gwneud ydy gwrando arnynt!

Dw i ddim yn siŵr pa lefydd a gweithgareddau yn ne Cymru sy’n addas ar gyfer ymarfer Cantoneg yn ogystal â phethau ar-lein. Efallai bydd rhaid dechrau rhywbeth! Dw i ddim yn cael yr argraff bod bwytai, siopau a busnesau am dreulio oriau yn helpu dysgwr. Ond bydd rhagor o gyfleoedd i ymarfer gyda theulu ym Malaysia ym mis Mawrth 2015.

Problem o ddiffyg cyhoeddusrwydd i gerddoriaeth Gymraeg

Lois Gwenllian yn gofyn:

Yn aml iawn mi glywaf bobl yn sôn am ddiffyg diddordeb pobl ifanc Cymru mewn pethau Cymreig. Un o’r rheiny sy’n codi ei ben yn dragywydd yw cerddoriaeth Gymraeg. Pam nad oes mwy o bobl yn gwrando / prynu’r gerddoriaeth? Dw i wedi pendroni tipyn am y peth, ac wedi methu dod o hyd i ateb / rheswm / beth bynnag boddhaol am y diffyg diddordeb yna. Does ‘na ddim un rheswm, nid mater du a gwyn ydy pethau fel hyn. […]

Dyma fy ymateb i yn y sylwadau:

Y broblem fwyaf, dw i’n credu, ydy’r diffyg cyhoeddusrwydd haeddiannol i’r gerddoriaeth.

Mae’n lot haws dod ar draws cerddoriaeth yn Saesneg ar unrhyw sianel, rhaglen neu blatfform – yn y cyfryngau prif ffrwd, ar-lein, mewn siop, mewn garej ac yn y blaen – na chanfod cerddoriaeth Gymraeg.

Fel unrhyw gerddoriaeth o safon sydd ddim yn cyrraedd cynulleidfa fawr, mae fe i gyd yn dod lawr i ddosbarthiad. Gallai artistiaid fel Candelas, Yr Ods, Plu ac ati tynnu mwy o sylw tasai mwy o bobl yn eu clywed yn y lle cyntaf.